Iwan Llwyd

Bardd a pherfformiwr a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol
yng Nghwm Rhymni yn 1990 am ei gerdd ‘Gwreichion’. Awdur nifer
o gyfrolau gan gynnwys ‘Taith Eldorado’ ar y cyd gyda Twm Morys,
sy’n seiliedig ar eu teithiau yn Ne’r Amerig.

Poet and performer who won the crown at the National Eisteddfod at
Cwm Rhymni in 1990 for his poem "Gwreichion" ("Sparks"). Author of
many volumes including Taith Eldorado, co-written with Twm Morys,
which is based on their travels in South America.






Pnawn Sul

Haul Ionawr ar y dwr,
a genod fel gwin,
a physgod yn codi
drwy rwydi’r dail crin:

gitarau a phibau
Ecwador a Pheriw
fel pupur ar furum,
fel halen ar friw:

adar drudwy yn trydar
‘no woman, no cry’,
a’r actor dall yn dynwared
ein cysgod ni’n dau:

a thrwy’r awyr gymylwag
tyr awyren ei chraith
gan arwyddo wrth adael
lofnod gweddill y daith.


Parc Retiro, Madrid, 30/1/2000








Cariadon mewn Oriel

Wedi eu fframio’n berffaith
rhwng cysgod a golau,
fo’n gwyro i gusanu
a hi ar flaenau’i bodiau:

y ddau'n anymwybodol
eu bod wedi eu rhewi
yng nghrafangau'r fflamenco,
a'r alaw yn distewi:

fod angau'n chwarae'r gitâr,
ac wrthi'n tiwnio'r tannau,
a hwythau ar anterth eu hangerdd
yn rhwyd ei gyweirnodau:

a than lygaid deillion
darluniau duon Goya
daw Sadwrn a'i dorfeydd
i lyncu'r olygfa,

a lladrata'r campwaith
gan adael yn y gofod,
alaw gitâr a ffram wag
rhwng golau a chysgod.


Y Prado, Madrid, Ionawr 2000








Frederico Garcia Lorca

Un golomen wen unig - yn dianc
dros doeau y traffig
ar ei hadain garedig
o'i ddwylo dewr, heb ddal dig.


Sgwâr Santa Ana, Madrid, Ionawr 2000








Guernica

Pen mam yn ei galar
a chelain plentyn,
gweflau meirch Efnisien,
darn o esgid rhywun:

dilyn muriau'r oriel,
a'r fframiau'n ganllawiau,
a phob persbectif newydd
yn dal y golau:

'does 'na ddim yn gwneud synnwyr,
mae pob llun yn wahanol,
fel cysgodion angau
ar wynebau'r bobol:

nes daw'r tarw i'r golwg
yn gyrn ac yn garnau,
fel strydoedd Pamplona
ar ðyl y gwyliau,

a ffurfafen o ddychryn
o'i lygad yn rhythu,
a mam yn ei dagrau
dan ei ffroenau'n offrymu

dyfodol ei phobol
i gofio'r gyflafan,
ac o bob safbwynt, yn sydyn
mae'r darlun yn gyfan.


Madrid, Ionawr 2000








Lladron
(ar ôl Goya)

'Doedd hi ddim wedi t'wyllu,
yn yr hanner golau,
a chlychau'r offeren
yn taro'r oriau,

fe ddaeth bwlch rhyngom
fel cyntedd eglwys,
lle daw'r cysgodion
rhwng canhwyllau'n gyfrwys,

i ddwyn yr hyn sy'n weddill
o'r dydd a'i helyntion,
gan reibio'n ddirybudd
ar gorneli culion;

a minnau ar goll, a hithau
drwy'r dyrfa yn cythru
ar hyd strydoedd llawn arswyd
nes daeth dirmyg yr heddlu

i daflu'r ysbail yn ôl atom,
cyn sleifio o'r neilltu,
a'r offeren yn angof,
a'r amheuon yn cynyddu.


Madrid, Ionawr 2000