Grahame Davies

Brodor o Goedpoeth, ger Wrecsam, sydd bellach wedi ymgartrefu yng
Nghaerdydd. Newyddiadurwr ar-lein i BBC Cymru ac enillydd Gwobr Goffa
Harri Webb am ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, 'Adennill Tir.'

A native of Coedpoeth, near Wrexham, Grahame Davies lives in Cardiff.
He is an online Welsh language journalist for BBC Wales and winner of the
Harri Webb Memorial Prize for his first volume of poetry, Adennill Tir.






Villanelle y Cymoedd

'Rwy'n gweld mai teithio ydy pwrpas taith;
'rwy'n dechrau deall castiau ysbryd Duw,
a gweld mai ennill ffydd yw colli'r ffaith.

'Rwy'n gweld brawdgarwch dyddiol bro ddi-waith,
y hiwmor du a'r jocian yn y ciw,
'rwy'n gweld mai teithio ydy pwrpas taith.

Gweld plant y dôl yn gweithio dros yr iaith,
y Cymoedd yn pleidleisio 'Ie' yn driw,
a gweld mai ennill ffydd yw colli'r ffaith.

Tro ar y mynydd wedi diwrnod gwaith;
y fam yn cario'i babi 'lan y rhiw,
'rwy'n gweld mai teithio ydy pwrpas taith.

'Rwy'n dechrau deall gras sy'n diodde'r graith,
a deall fel mae marw er mwyn byw;
a gweld mai ennill ffydd yw colli'r ffaith.

'Rwy'n teimlo'r gwynfyd yn y gwacter maith
a bendith llosg yr halen ar y briw.
'Rwy'n gweld mai teithio ydy pwrpas taith,
a gweld mai ennill ffydd yw colli'r ffaith.





Valley Villanelle

I see that it's to journey that we go;
I'm starting to discern the spirit's way,
I see it's only faith if you don't know.

The daily comradeship of men brought low,
the dole-queue jokes while waiting for your pay,
I see that it's to journey that we go.

The jobless kids who help the language grow,
the Valleys voting 'Yes' to have their say,
I see it's only faith if you don't know.

A walk up to the mountain for a blow:
the mother takes the baby out to play;
I see that it's to journey that we go.

I see, through grief, the grace that lies below,
and how, to live, you give your life away;
I see it's only faith if you don't know.

The burning blessing when the answer's no;
the stinging balm of silence when I pray.
I see that it's to journey that we go.
I see it's only faith if you don't know.



translated by the author





Coch

Ti'n gosod yr olewyddion gyda'r feta,
a rhoi'r ciabatta'n barod at y cwrdd,
agor y coch, a dyro'r gwyn i oeri;
a chynnau'r gannwyll bersawr ar y bwrdd.

Rhyw antipasti bach i godi archwaeth,
a chwlffyn o baguette o Ffrainc gerllaw,
rhyw beth fel hyn yw trafod achub Cymru
yn CF Un ym mil naw nawdeg naw.

Tybed pa beth a wnâi o hyn, dy dadeu,
a heriodd garchar er mwyn Yncl Joe,
yr un a gadwodd faner goch y chwyldro
i chwifio drwy dridegau'r pentref glo?

Yr un a aeth i Rwsia ar wahoddiad
i dderbyn Sofietaidd ddiolch-yn-fawr,
a dod yn ô1 â cherflun bach o Lenin,
sy'n addurn uwch dy silff-ben-tân di 'nawr.

Yr un enillodd lid y rhecsyn lleol
am gyfarfodydd gweithwyr yn ei dy.
Tybed pa beth feddyliai ef o wyres,
sy'n nashi dosbarth-canol bach fel ti?

Tybed yn wir. Ond merch dy dadcu wyt ti:
dau o'r un brethyn mewn gwahanol ffyrdd,
yn ceisio cuddio creithiau anghyfiawnder
drwy beintio'r byd i gyd yn goch - neu'n wyrdd.





Red

You set the olives down beside the feta,
and make sure the ciabatta's looking nice.
You light the perfumed candle for the meeting,
open the red wine, put the white on ice.

A little antipasti to begin with;
a French baguette to soak up all that wine;
this is the way we meet to save our nation
in CF One in nineteen ninety nine.

I wonder what he'd make of this, your grand-dad,
who risked a prison cell for Stalin's sake,
the one who raised the red flag in the valleys,
the man the hungry thirties couldn't break?

The one who got invited out to Russia
to get the Soviets' thank-you face to face,
and came back with a little bust of Lenin,
that's now an ornament above your fireplace.

The one who earned the local rag's displeasure
for calling meetings to arouse the mass,
I wonder what he'd make of his descendant:
Welsh-speaking, nationalistic, middle-class?

I wonder. But you're still so like your grand-dad:
cut from the same cloth, just by different means,
trying to cure the evils of injustice
by painting all the world in red - or green.




translated by the author





Rough Guide

Mae'n digwydd yn anorfod,
fel dwr yn dod o hyd i'w lefel,
ond bob tro yr agoraf lawlyfr teithio
rwy'n hwylio heibio'r prifddinasoedd
a'r golygfeydd,
ac yn tyrchu i strydoedd cefn diolwg
y mynegai,
a chael fy mod
yn Ffrainc, yn Llydawr;
yn Seland Newydd, Maori;
yn yr Unol Daleithiau - yn dibymu ar ba ran - 'rwy'n Navajo, yn Cajun,
neu'n ddu.

Y fi yw'r Cymro Crwydr;
yn Iddew ymhob man.
Heblaw, wrth gwrs, am Israel.
Yno, 'rwy'n Balesteiniad.

Mae'n rhyw fath o gymhlethdod, mae'n rhaid,
fy mod yn codi'r grachen ar fy psyche fel hyn.
Mi dybiaf weithiau sut beth a fyddai
i fynd i un o'r llefydd hyn
a jyst mwynhau.
Ond na, wrth grwydro cyfandiroedd y llyfrau teithio,
yr un yw'r cwestiwn ym mhorthladd pob pennod:
"Dinas neis. 'Nawr ble mae'r geto?'





Rough Guide

It happens inevitably,
like water finding its level:
every time I open a travel book,
I sail past the capital cities, the sights,
and dive straight into the backstreets of the index
to find that in France, I'm Breton;
in New Zealand, Maori;
in the U.S.A. - depending on which part -
I'm Navajo, Cajun, or black.

I'm the Wandering Welshman.
I'm Jewish everywhere.
Except, of course, in Israel.
There, I'm Palestinian.

It's some kind of a complex, I know,
that makes me pick this scab on my psyche.
I wonder sometimes what it would be like to go to these places
and just enjoy.

No, as I wander the continents of the guidebooks,
whatever chapter may be my destination,
the question's always the same when I arrive:
'Nice city. Now where's the ghetto?"




translated by the author





Tomb Raider

Can there be a Welsh Lara Croft?
                        - Jean Jaques Lecercle



Fe heriwn ymerodraethau;
fe heriwn Microsoft:
fe ail-'sgrifennwn raglen
rheoli Lara Croft.

O'n geto electronaidd
fe ddaw ar newydd wedd,
nid rheibiwr beddi mwyach
ond rheibiwr amgueddfeydd!

Nid lleidr beddi'r llwythau,
nid epil lord o Sais,
ond merch y gorthrymedig
â'u llafnau yn ei llais.

Ar ran pob hen ddiwylliant
a phob lleiafrif gwan,
fe ddaw i'r prifddinasoedd
i ddial ar ein rhan.

Mae'n dod i gipio'n chwedlau
o ffeiliau'r ysgolhaig.
Mae'n cario dryll dihysbydd.
Mae'n groenddu; mae'n Gymraeg.

Creiriau'r Celt a'r Eifftiaid,
trysorau'r Navaho;
chwelir eu cistiau gwydr,
dygir nhw 'nôl i'w bro.

Fe ddrylliai'r drysau haearn;
fe loriai filwyr lu.
Hei, Honci! Dyma Lara
i hawlio'n heiddo ni!